Ydych chi’n cofio Anatoni’s yn Lakeside? Wel, mae wedi newid enw a lleoliad erbyn hyn - Da Mara yw’r enw a Phenylan yw’r lleoliad. Dwi’n hapus iawn gweld Da Mara yn sefydlu yn uned 2 heol Penylan oherwydd roedd gen i deimlad byddai’r siop yn wag am sbel. Cyn hyn ar yr un safle roedd bar gwin The Penylan (methiant llwyr) a thrueni mawr oedd gweld ymerodraeth Il Pastificio yn dymchwel cyn i fwyty Ponderosa ceisio ac yna methu.
Dwi’n gobeithio bydd Da Mara yn profi i fod yn fwy llwyddiannus. Wedi dweud hyn mae yna bethau sydd angen iddyn nhw ei newid:
Dwi’n edrych ymlaen at brofi rhagor o fwydlen Da Mara dros y misoedd nesaf ac ar sail ei pizza yn unig, dwi’n wir obeithiol y bydd y bwyty yn profi llwyddiant.
facebook/damaracardiff
@damaracardiff
http://www.damaracardiff.co.uk
2 Pen-Y-Lan Road
Penylan,
Cardiff,
CF24 3PF
02920 482222
Dwi’n gobeithio bydd Da Mara yn profi i fod yn fwy llwyddiannus. Wedi dweud hyn mae yna bethau sydd angen iddyn nhw ei newid:
- Y décor a’r dodrefn: ac eithrio ambell i lun ar y waliau a cherddoriaeth Eidalaidd - does fawr wedi newid ac yr un yw’r naws.
- Defnydd gwell o’r lle sydd yn islawr y bwyty: does dim ffenestri na naws da yno o gwbl - mae’n goridor i’r tai bach yn fwy nag unrhywbeth arall.
- Ambell i gynhwysyn: roedd rhai o’r pethau yn gwbl ddi-flas neu yn enghreifftiau gwael e.e. tomato (o’r archfarchnad am wn i) yn siomedig a chaws mozzarella yn ddigonol, ond dim byd mwy.
- Y Pasta: dechreuad o penne bolognese yn unig ges i ac er bod y saws bolognese yn ddigon dymunol doedd dim byd arbennig am y pasta a roedd yn wael o’i gymharu â safon pasta Il Pastificio cynt.
| Caprese £6.50 - nid da lle gellir gwell! |
Er gwaethaf hyn, gadewais y lle yn ddigon hapus ar ôl bwyta yna’n ddiweddar. Mae dau reswm am hyn - cyfeillgarwch y perchnogion a safon arbennig o dda y pizza. Serch hynny, mae Da Mara yn fwy na jyst pizzeria gydag amrywiaeth dda o fwyd (gweler bwydlen mis Ionawr isod):
Does dim syndod bod y pizzas o safon yn enwedig o ystyried y ffwrn arbennig o Naples - y forni Stefano Ferrara sydd yn dominyddu’r bwyty. Ces i’r pizza crudo & rucola sef ham o barma, dail salad roced, mozzarella a pecorino a thomatos ceirios. Pizza digon syml a blasus tu hwnt - nid o reidrwydd yr un safon a fy ffefrynnau Dusty Knuckle, Ffwrnes a Cafe Citta ond yn well na llefydd arall Caerdydd yn fy marn i. Yn wir, gwnaeth The Sunday Times arfarnu bod pizza Da Mara gyda’r 25 pizzeria gorau ym Mhrydain.| Pizza penigamp - £12.95 |
facebook/damaracardiff
@damaracardiff
http://www.damaracardiff.co.uk
2 Pen-Y-Lan Road
Penylan,
Cardiff,
CF24 3PF
02920 482222

No comments:
Post a Comment