Friday 22 April 2016

Chutney Roti

Dyma fy mlog cyntaf ar fwyty cyri. Er bod y brifddinas yn llawn o fwytai cyri, dwi gan amlaf yn dewis bwyta ym Mint & Mustard neu Purple Poppadom. Mae ansawdd eu bwyd ac eu harloesedd o ran trawsnewid prydau traddodiadol wedi codi safon y math yma o fwyd i lefel dyw Caerdydd ddim wedi ei weld o'r blaen. Mae'r bwyd yn ddrud serch hynny gyda bwydlen blasu yn costio £45 (PP) a £40 (MM).

Mae Moksh, lawr yn y bae yn haeddu ychydig o sylw hefyd (£40 am y fwydlen blasu). Mae'r cogydd, Stephen Gomes yn llawn brwdfrydedd ac yn fwy arbrofol na neb hyd y gwelaf i. Oherwydd yr arbrofi yma, ma 'rhaid' bod yn oddefgar at ambell i fethiant. Mae Moksh yn ceisio creu profiad sy'n apelio at y synhwyrau i gyd. O wynt cardamom yn cael ei ledaenu drwy fwg y liquid nitrogen i weini pwdin trwy ei daflu o'ch blaenau - mae'r cogydd yn fwy o wyddonydd gwallgo’ na chogydd.
Os nad ydych chi am brofi theatr Moksh neu ddim am wario cymaint ar gyri PP neu MM, mae Chutney Roti ar Whitchurch Road yn ateb y briff.

Nid yw'r bwyd cystal â M&M na PP ond mae £25 am fwydlen blasu pum cwrs yn cynrychioli gwerth am arian gwell nag unrhyw fwyty cyri arall yng Nghaerdydd.
Gyda phris mor isel, roeddwn i’n disgwyl llwyth o garbohydradau fel reis a bara ond roedd y tri chwrs cyntaf llawn protin: cyw iâr basil a tikka, kofta cig oen a physgodyn tikka. Byddai'n well gen i gael pysgodyn gyda gwead mwy cigog fel maelgi ond bydd hynny’n sicr o gynyddu’r pris. Dechreuad addawol iawn i’r pryd.
Fel prif gwrs mae tri gwahanol gyri, daal, reis a thri gwahanol fath o fara naan. Mae’r fath o gyri yn newid o yn go aml ond y bwriad yw i gael blas gwahanol fathau o ran y cig/pysgod (cyri cyw iâr, cig oen a chorgimwch) a’r blas (cyri wedi’i sbeisio’n ysgafn, cymedrol a phoeth). Mae’r bara nann (plaen, garlleg a peshwari) yn ysgafn ac yn flasus.
I bwdin mae’r cacen gaws gyda hufen iâ. Does dim byd arbennig am y melysfwyd ond mae’n gyfle i ryfeddu at ba mor rhesymol mae’r pryd. Dwi wedi cael y fwydlen yma ddwywaith a dwi’n gadael heb deimlo’n orlawn a theimlo fel fy mod wedi blasu rhan helaeth o’r fwydlen. Hyn oll am ond £25 ac mae bwydlen blasu lysieuol ar gael hefyd am £19.99 yn unig. Bargen.
Y bwyty cyri gorau yng Nhaerdydd? Nage, ond dwi’n amau cewch chi fwyty cyri sy’n cynnig gwell gwerth am arian.

Chutney Roti
90 – 92 Whitchurch Road
Caerdydd
CF14 3LY

02920231511 / 02920236833
info@chutneyroti.co.uk 

No comments:

Post a Comment