Wednesday 15 March 2017

Bwyty James Sommerin, 2017

Mae darllenwr y blog yn deall fy mod i’n hoff iawn o goginio James Sommerin. Ar ôl ennill a chadw seren michelin am saith mlynedd o weithio yn Crown at Whitebrook agorodd James fwyty lawr ym Mhenarth. Dyma fy adolygiad o’r bwyty yn 2014 a 2015. Er i mi fwynhau’r profiadau, roeddwn i’n clywed gan eraill feirniadaeth am yr awyrgylch a safon y gwasanaeth.

Awyrgylch

Dyma oedd gan bapur Y Telegraph i'w ddweud nôl yn 2014:
“[James Sommerin] won't create a wonderful restaurant unless he loosens up, throws back the curtains and embraces his location” 

Ar ôl ymweliad diweddar, mae’n amlwg bod James a’i dîm wedi gwrando ar yr adborth yma ac wedi buddsoddi (dros £250k) ar:
  • ffenestri newydd sy’n caniatái i gwsmeriaid allu gweld golygfeydd o’r môr;
  • seddi gwahanol liwiau;
  • brasluniau o syniadau prydau ar ddrws gwydr yng nghanol y bwyty;
  • llen rhwng y bar a’r bwyty; a
  • cherddoriaeth fodern.
Mae’r rhain i gyd yn ychwanegu at naws llawer mwy anffurfiol ac yn brawf bod James Sommerin wedi “loosened up”.

Gwasanaeth

Mae James Sommerin wedi bod yn ddigon agored i’r feirniadaeth yma a dwi wedi clywed gan fy mrodyr a’m ffrindiau am enghreifftiau o wasanaeth go wael. I wella’r sefyllfa, mae James a’i gogyddion yn arlwyo’r bwyd eu hunain. Mae hyn wedi gweithio’n dda ym mwyty Casamia ym Mryste ac ar ôl ymweliad diweddar, roedd gwasanaeth y bwyty i weld yn slic.

Bwyd

Er bod y gwasanaeth a’r awyrgylch yn elfennau pwysig iawn yn y profiad o fwyta mas, y bwyd sy’n holl bwysig. A pharhau i wella ma’ safon y bwyd. Mae 2017 wedi bod yn flwyddyn dyngedfennol i’r bwyty. Mae’r bwyty wedi aeddfedu ac wedi ffurfio personoliaeth ac mae wedi ennill gwobrau di-ri.
Mae arolygwyr Michelin wedi cydnabod talent James Sommerin ac mae nawr yn un o saith bwyty yng Nghymru sydd â seren.
Mae arolygwyr bwyd AA o’r farn bod bwyty James Sommerin ymhlith 10% o fwytai gorau yn y DU (3 Rosettes) ac eleni, James Sommerin yw AA Restaurant of the Year for Wales.

Mae’r patrwm yn parhau o ddarllen canllaw The Good Food Guide, 2017 sydd wedi dyfarnu sgôr o 7/10 (“high level of ambition and individuality, attention to the smallest detail, accurate and vibrant dishes”) ac mae ymhlith y 50 bwyty gorau yn y DU (34).



Tra bo’ 2017 yn profi i fod yn un llwyddiannus iawn i fwyty James Sommerin, dwi’n credu bod mwy i ddod. Ar ôl prydau diweddar yn Champignon Sauvage (2* michelin) a Moments (2* michelin), dwi o’r farn bod bwyd James Sommerin cystal ac yn haeddu ail seren a rosette AA arall.
Mae’n anodd proffwydo beth ma’r arolygwyr yn ei feddwl ond dwi’n sicr o un peth, rydyn ni’n ffodus iawn i gael cogydd mor ddawnus â James Sommerin yn gweithio ym Mhenarth.

Restaurant James Sommerin
The Esplanade
Penarth
CF63 3AU
02920706559
http://www.jamessommerinrestaurant.co.uk/
facebook/restaurantjamessommerin
@RestaurantJS
@JSommerin

lluniau o ffrwd Twitter @JSommerin a @RestaurantJS

No comments:

Post a Comment