Thursday 2 February 2017

Sushi Life

Does dim fawr o ddewis bwytai sushi yn y brifddinas: Yo! Sushi yng nghanol y ddinas; Ichiban yn y Rhath a Threganna; Tenkaichi ar City Road a Yakitori #1 lawr yn y bae. Ma cryn dipyn o newid wedi bod yn Yakitori gyda dau o’r cogyddion a’r front of house yn penderfynu gadael ac agor lle newydd ar Wellfied Road – dyma fan cychwyn Sushi Life.
Sashimi Tiwna (£7)
Mae’r fwydlen yn un cyfarwydd iawn gyda detholiad o Sashimi, Nigiri, Maki ac ambell gyri ond, yn fy marn i, ma Sushi Life yn well na’r lleill oherwydd ansawdd y cynhwysion a’r paratoi: ma’r reis yn cael ei baratoi bob bore a mae pob un pryd sy'n cael ei greu yn ffres. Does dim coginio ar raddfa fawr yma. Yr Hell in Kitchen (£8.50), Spider Maki (£9) a’r Sashimi Tiwna (£7) yw fy hoff bethau o’r fwydlen, pob un ohonyn nhw’n llai na £10.
Rhol Maki Hell in the Kitchen (£8.50) a Spider Maki (£9.00)
Tra fy mod i'n hoff iawn o'r bwyd mae elfennau o'r fwydlen yn sicr "o godi ael"! Mae cyri katsu cyw iâr er enghraifft yn cael ei weini gyda reis a sglodion. Cyfuniad da o fwyd Siapan a thuedd trigolion Caerdydd am half and half neu sarhad ar draddodiad? Mae ambell i maki yn cynnwys caws neu mayonnaise hefyd, sy'n draddodiad sushi Americanaidd ond nid yn draddodiad sushi Siapaneaidd.
Cyri cyw iâr Katsu (£8)
Mae'r cogydd, Cornell, sydd wedi derbyn ei hyfforddiant gan sushi-feistr o'r Amerig, yn amlwg yn dalentog ac yn awyddus i ail-ddiffinio sushi traddodiadol. Mae gan Cornell syniadau mawr gyda 50 gwahanol rôl maki. Ar sail fy ymweliadau diweddar, dwi'n awyddus iawn i weld sut bydd y fwydlen yn esblygu gydag amser.

http://www.sushilife.co.uk/
@SushiLifeCDF
facebook/sushilife
02920459703
deliveroo/sushilife

No comments:

Post a Comment