Saturday 29 December 2018

Uchafbwyntiau Bwyta Yn Y Brifddinas 2018

Mi oedd hi’n ddechreuad anodd iawn i’r flwyddyn gyda sawl bwyty yn cau. Cau am y tro olaf gwnaeth 29 Park Place, The Hashery, The Meating Place, Barley & Rye, Harvester, Arbennig, Fish at 85, Strada, Juboraj, Miss Jones, Dill Jeera, Chez Francis, Porro, La Mangiatoia, Bayside Brasserie a mwy. Bu ‘restaurant no shows’ yn bygwth parhad i nifer arall o fwytai hefyd.

Er gwaethaf hyn, mae yna achos dathlu a dwi wedi rhestri rhai o fy uchafbwyntiau o loddesta yng Nghaerdydd.

Milkwood

Bwyty gorau Caerdydd 2018 yw Milkwood yn fy marn i. Wedi bod yn ffodus iawn cael bwyta yno sawl tro yn 2018 a dyma un o hoff brydau bwyd fy ngwraig.
Da Mara

Ar ôl sawl methiant ar safle '2 Penylan Road' mae’n braf gweld bwyty yn llwyddo a braf gweld Da Mara yn llawn dop ac yn ffynnu. Tro ar ôl tro mae Da Mara yn coginio pizza perffaith. Braf gweld bod Ffwrnes wedi agor lle ym marchnad Caerdydd hefyd.
Penylan Pantry

Y saladau gorau yn y brifddinas ac mae’n amlwg bod sawl person arall yn cytuno ‘da fi. Mae Penylan Pantry bellach gyda stondin Cheese Pantry yn y farchnad a’r Secret Garden. Mae’r wy – gyda diolch i Holly Yolks – yn wych o beth.
James Sommerin

Mae gallu James Sommerin i greu prydau o’r ansawdd gorau yn rheolaidd wedi’i gydnabod unwaith eto gan arolygwyr Michelin. Mae’r ‘pebble’ yma sy’n lasagne yn enghraifft o’i greadigrwydd.
Gŵyl Fwyd Bite

Gŵyl am ddim gyda chogyddion gorau’r brifddinas yn arlwyo bwyd am £3 y plât. Does dim byd arall o’r fath yng Nghymru a dwi’n gobeithio’n fawr iawn bydd Bite yn dychwelyd yn 2019.
The Heathcock

Mae Hare & Hounds yn un o dri bwyty yng Nghymru gyda bib gourmand. Roeddwn i wrth fy modd felly pan glywais i ei bod nhw am agor ail fwyty yn The Heathcock. Braf gweld y tarfan yn ail agor a dydy e ddim yn syndod ei fod yn llwyddiant ar ôl ond tri mis.
Heaney’s

Bwyty arall sydd wedi agor yn ddiweddar. Bwyty arall sydd yn hynod o lwyddiannus a phrysur. Y cogydd wedi ennill tipyn o ganmoliaeth ar raglen Great British Menu ac wedi llwyddo codi dros £50k cyn iddo agor y drysau. Cyfle gorau’r brifddinas i ennill seren Michelin yn 2019?
Blwyddyn Newydd Dda, a joiwch 2019

No comments:

Post a Comment