Sunday 6 March 2016

Felin Fach, Griffin

Yn ôl arolygwyr Michelin, ond un lle yng Nghymru sy’n darparu bwyd da am bris rhesymol (tri chwrs am lai na £28). Mae canllaw diweddaraf Michelin yn enwi tafarn Felin Fach Griffin, Aberhonddu fel yr unig le yng Nghymru sy’n haeddu Bib Gourmand. Yn fy marn i, mae rhyw ddwsin o fwytai Cymru yn haeddu ennill “bib”, ond nid diffyg arolygwyr Michelin yw testun y blog yma ond y pryd hyfryd ces i yn y Felin Fach.

Mae’r awyrgylch yn un anffurfiol iawn gyda chwsmeriaid yn yfed wrth y bar neu’n eistedd ar soffas lledr cyfforddus o flaen tân mawr. Mae’n dafarn cartrefol a byddwn i wrth fy modd yn treulio penwythnos yno. Mae dwy fwydlen ar gael amser cinio. Un yn cynnig pris gosodedig o ddau gwrs am £18 neu tri chwrs am £22 – ond dau ddewis o bob cwrs sydd serch hynny. Mae’r fwydlen arall yn ddrytach (oddeutu £8 am gwrs cyntaf a £15 am brif gwrs) ond mae llawer mwy o ddewis.

Mae’n ffasiynol i bod bwyty ddweud eu bod nhw’n cynnig cynnyrch tymhorol ond tra bo llwyth o fwytai yn ‘dweud’ mae’r Felin Fach yn ‘gwneud’. Y sewin er enghraifft yn dyner a’r merllys cynnar y tymor yn felys neis. Coginio cywir heb unrhyw ffws sydd ar gael yma.

Roedd yr octopws hefyd yn llwyddiant ac roedd techneg o olosgi heb effeithio ar wead y pysgodyn. Blasus ond braidd yn ddyfrllyd oedd y colslo Asiaidd serch hynny.

Seren y pryd oedd y pengernyn (gurnard). Pysgodyn hyll wedi’i drawsnewid i greu plât o fwyd mwyaf blasus i mi brofi eleni. Cyflwyniad ‘chefy’ y dresin sgwid yn groes i gyflwyniad di ffwdan pob pryd arall ond roedd pwrpas iddo – gyda halen y dresin yn uchafu blas y pengernyn. Prif gryfder y pryd yma oedd cynnal cydbwysedd o flasau tyner y cynhwysion – pryd perffaith ar gyfer y gwanwyn.

Yn gwbl groes i’r pengernyn oedd bola’r mochyn. Darn mawr o gic gyfoethog, llawn blas, yn frau ac wedi’i goginio’n berffaith. Roedd dylanwad Asiaidd yn amlwg gyda blasau cryf y basil a’r coriander yn gweithio’n dda gyda’r porc.

I bwdin ces i bwdin reis siocled gwyn. Roedd y reis yn al dente a gweinwyd y melysfwyd yn oer. Byddai'n well gen i gael y pwdin reis yn gynnes, yn enwedig yn y tywydd oer yma. Byddai pwdin reis twym yn wrthgyferbyniad da i’r hufen ia banana hefyd. Roedd cynnwys y cnau cyll yn arbennig o dda ac yn sicrhau nad oedd y pwdin reis yn undonog.

Mae’n anodd i mi gyfleu pa mor neis oedd y mousse siocled tywyll, coffi a hufen marscapone yma. Dydy cyfuno siocled gyda choffi ddim yn unrhwybeth newydd ond roedd cydbwysedd y blasau yn anhygoel. Mi oedd e mor dda, archebais i un arall i fwyta gyda fy nghoffi.

Gyda’r tywydd i fod gwella dros yr wythnosau nesa gallai argymell i bawb fynd am dro mawr yn y Bannau yn y bore cyn llenwi’ch bol gyda bwyd blasus Y Felin Fach.

No comments:

Post a Comment