Friday 6 September 2013

Troy

Ar Heol y Ddinas, mae yna sawl lle yn gwerthu cebab ac yn araf bach dwi'n bwyta fy ffordd trwyddyn nhw. Y tro hwn, penderfynais i fynd i Troy.


Mae'r bwyty wedi ennill tipyn o gydnabyddiaeth ac mae'r bwyty yn arddangos erthygl yn y Sunday Times (un o bump bwyty cebab gorau ym Mhrydain, 2010) ar ei wal wrth i chi gerdded mewn.

Mae'n gysurus iawn cael gweld y cig yn Troy mewn oergell glân o'ch blaenau chi. Mae yna dipyn o amrywiaeth gyda sgiwerau o gyw iar, afu cig oen, cig oen gyda garlleg a phersli, ysbinbysg y môr (sea bass) a sofliar (quail). Cyn i mi ddewis fy nghebab ces i'r Karisik Meze (£5.95) fel dechreuad.

Humus, Tarama, Cacik, Patlican Ezme, Beyaz Peynir, Cali Fasulye ac Yaprak Sarma
I fynd gyda'r meze ces i fasged o fara twym. Does dim unrhywbeth rhy arbennig am yr un ohonyn nhw, ond dim byd gwael chwaith. Y peth gorau yw'r amrywiaeth - dwi'n hoffi cael profi gwahanol blasau ac mae'r bara gyda hadau sesame twym yn flasus ac yn berffaith ar gyfer blasu pob un o’r dips. Mae hwn yn ormod i un person serch hynny. Gyda rhan fwyaf o brif gyrsiau ar y fwydlen yn cynnig bara a reis fel rhan o'r pryd, mae'r holl fara yn ormod.

I fynd gyda'r dechreuad oer ces i ddechreuad twym o Hellim (halloumi) (£4.00).

Hellim
Fel mae'r llun yn dangos, does dim elfen arall i'r pryd nac unrhyw ffws gyda'r cyflwyniad. Mae hwn yn gryfder oherwydd does dim angen unrhywbeth arall ar y caws lled-caled a hallt yma.

I brif gwrs, ces i'r cebab shish cyw iâr (£8.95). Mae'r cebab yn cael ei goginio dros lo-losg sydd yng nghanol y bwyty. Mae'r cebab yn syml ond yn dda iawn. Y cyw iâr sydd yn serenni. Y rheswm am hyn yw maint y darnau o gig.

Cebab shish cyw iâr
Dwi wedi cael cebab shish mewn llefydd eraill sydd yn defnyddio darnau llai ac er bod hyn yn golygu mwy o ddarnau wedi'i olosgi, mae'r cig ei hun yn dueddol o sychu mas. Ar y llaw arall, mae coginio darnau mawr (neu'r bron cyw iâr yn ei gyfanrwydd) yn cynyddu'r tebygolrwydd o gael cig llaith ond llai o ddarnau wedi'i olosgi. Mae maint y cig yn Troy yn taro'r hoelen ar ei phen ac yn sicrhau cig llaith gyda darnau wedi'i olosgi.


Ches i ddim byd melys a daeth y bil i £18.90. Er bod cymaint o lefydd eraill da ar Heol y Ddinas, mi oeddwn i nôl yn Troy tridiau wedi hyn!

192 Heol y Ddinas,
Caerdydd,
CF24 3JF

029 2049 9339

www.troymezebar.com
@troymezebar

No comments:

Post a Comment