Sunday, 12 November 2017

Emoji Chefs

Below are a series of emojis that form clues to different celebrity chefs. If you enjoy a quiz, and think you know your chefs,  then tweet / facebook/ instagram your answers using #emojichef. For every first correct answer, I will donate £5 to your chosen charity. Good luck / Pob lwc!

1. 馃幑馃敍馃悘馃寠

2. 馃殫y馃洠馃洠

3. 馃悿馃崠馃嵏馃懇

4. J馃敍 馃洠馃洠

5. (馃懓馃徎+馃さ) 馃崜

6. 馃挴 馃吘️pea馃懇⚪️

7. 馃帳馃叞️LL馃彈馃彈

8. A馃悜馃馃崙

9. 馃殫馃毥 chi 馃吘️

10. 馃挴馃嚭馃嚫馃し‍♂馃拲

11. 馃嚦馃嚞L馃叞️馃懏馃徎‍♂️馃應

*spoiler alert...answers as they come in are below...












1. 馃幑馃敍馃悘馃寠
Piano keys or 'chord' - on - a ram - sea - Gordon Ramsey
Correct answer given by @solicitingflava and £5 donated to Hope Rescue - his charity of choice.

2. 馃殫y馃洠馃洠
Car-y-roads - Gary Rhodes
Correct answer given by @Hath53 - and £5 donated to Shelter Cymru - his charity of choice which he's matching with his own money too Legend!

3. 馃悿馃崠馃嵏馃懇
This is a really bad emoji clue so thanks to @lloydbinding for getting this one right and putting everyone out of their misery!
'Jay' bird ham being a type of 'meat' martini cocktail with an 'olive' in it and a girl i.e. 'her' - Jamie Oliver. I did warn you it was bad! Bravo to @lloydbinding who chose Velindre as his charity of choice. 

4. J馃敍 馃洠馃洠
J-on-roads - John Torode
Correct answer given by @Hath53 - and £5 donated to Shelter Cymru - his charity of choice which he's matching with his own money too Legend!

5. (馃懓馃徎+馃さ) 馃崜
Marry and Strawberry - Merry Berry
Correct answer given by @gourmetgorro and £5 donated to Mind - his charity of choice. 

6. 馃挴 馃吘️pea馃懇⚪️
100 being a score or 'mark-o-pea-her-white' - Marco Pierre White
Correct answer given by @Hath53 - and £5 donated to Shelter Cymru - his charity of choice which he's matching with his own money too Legend!

7. 馃帳馃叞️LL馃彈馃彈
Mic - ALL - Craines - Michael Caines
Correct answer given by @_hannahlw and £5 donated to @unique_charity - her charity of choice.

8. A馃悜馃馃崙
A lamb duck ass (I'm told the apricot is used to say 'bum'!) Alain Ducasse
Correct answer given by @gourmetgorro and £5 donated to Mind - his charity of choice.

9. 馃殫馃毥 chi 馃吘️
Car Loo Chi O - Carluccio
Correct answer given by @gourmetgorro and £5 donated to Mind - his charity of choice.

10. 馃挴馃嚭馃嚫馃し‍♂馃拲
A score or 'mark' - a 'US' flag - 'wear'ing clother - 'ring'- Marcus Wearing
Correct answer given by @_hannahlw and £5 donated to @unique_charity - her charity of choice.

11. 馃嚦馃嚞L馃叞️馃懏馃徎‍♂️馃應
'Nige'rian flag-LA-a policeman / man of the 'law' a family with a 'son' - Nigella Lawson
Correct answer given by @solicitingflava and £5 donated to Hope Rescue - his charity of choice. 

Saturday, 28 October 2017

Milkwood

Yn gynharach eleni agorodd bwyty Milkwood ar hen safle Cibo ym Mhontcanna. Ac eithrio enw’r bwyty, does dim unrhyw gyfeiriad at yr awdur Dylan Thomas, ond mae perchnogion y bwyty wedi creu stori ddiddorol ei hunain.

N么l yn 2004 bu Gwyn Myring a Tom Furlong yn gweithio yng nghegin Cibo a breuddwydio am agor bwyty ei hunain. Dros ddegawd yn ddiweddarach ac ar 么l agor bwytai The Potted Pig, Porro a thafarndai The Lansdowne a The Grange, dyma Gwyn, Tom a’i wraig Cerys yn gwireddi breuddwyd ac agor Milkwood. Ar 么l mwynhau cinio yno'n ddiweddar, gallaf ddweud heb unrhyw amheuaeth bod yr aros wedi bod yn werth chweil.
Diolch i @SolicitingFlavours am y llun
Ynghyd ac Asador 44, dyma'r bwyty gorau sydd wedi agor yn y brifddinas yn 2017. Mae Milkwood wedi llwyddo i greu naws hyfryd ac mae’n glasur o ‘neighbourhood restaurant’ . Mae'r ma卯tre d', Andrew, yn helpu i greu naws hamddenol braf. Roedd gen i deimlad da am y lle ar 么l i mi flasu’r bara rhyg a stout tywyll gyda hadau a menyn halenog, amuse-bouche o fetys a marchruddygl (horseradish) – popeth wedi’i wneud yn y bwyty.

Prin iawn yw bwytai’r brifddinas sy’n cynnig razor clam ac roedd y rhain gyda ystifflog (squid) a saws syml o tsili, garlleg a lemwn (£8) yn berffaith.
Ar gyfer fy mhrif gwrs roedd ffiled o wddf porc wedi’i goginio’n araf, selsig gwyn (boudin blanc) a ffa haricot (£20) yn hyfryd. Y boudin blanc wedi’i greu gan y cogyddion.
Y cwrs caws oedd yr unig wendid. Ces i ddau ddarn mawr o gaws (Baron Bigod a Montogmery (£9)) ond basai'n well gen i gael mwy o ddewis na hyn.

Coronwyd y cyfan gan bwdin o afal, hufen i芒 caramel halenog a Pedro Xim茅nez (£8).
Mae’n amlwg bod y triawd o Cerys, Tom a Gwyn wedi llwyr ymrwymo eu hunain i Milkwood – yn wir, mae’r tri wedi gwerthu The Potted Pig a Porro er mwyn canolbwyntio ar Milkwood - trigolion Pontcanna ar eu hennill!

Mae’n ddigon hawdd gwario ceiniog bert yma ond mae’n werth nodi’r fwydlen pris gosodedig sy’n fargen gyda thri chwrs am lai na £20!

Mae Milkwood wedi ennill tipyn o ganmoliaeth gan flogwyr lleol ond dyma ragfynegiad i chi. Mi fydd bwyty Milkwood yn ennill cydnabyddiaeth gan arolygwyr Michelin 2019, yn ennill sg么r o 2 neu’n uwch yng nghanllaw The Good Food Guide 2019 ac yn ennill 2 rosette AA, 2019.

http://milkwoodcardiff.com
029 2023 2226
info@milkwoodcardiff.com
Facebook/Milkwood-Pontcanna
@/Milkwoodcdf

Tuesday, 3 October 2017

Ysbyty Felindre: Galw am Ryseitiau

Mae canser gallu cael effaith ddinistriol iawn ar yr unigolyn, teulu a chymdeithas. Er gwaethaf hyn, dwi’n cael fy ysbrydoli o weld a chlywed am gleifion yn brwydro ymlaen 芒’u bywydau er gwaethaf y driniaeth ddwys ac yr ansicrwydd. Mae’r cleifion yn dweud, dro ar 么l tro, gymaint ma’ pryd maethlon o fwyd yn gysur mawr iddynt...a dyma darddle syniad o greu llyfr ryseitiau llawn bwyd cysur.

Mae’n fraint enfawr cael gweithio ar y prosiect yma, ond un peth angenrheidiol sydd ei angen ar Ganolfan Ganser Felindre yw ryseitiau gan gleifion (presennol neu orffennol). Beth sy’n dod 芒 chysur i chi? Cino dydd Sul arbennig roedd mam yn arfer ei goginio neu bwdin arbennig roedd mamgu'n arfer ei goginio pan oeddech chi’n ifanc. Beth bynnag sy’n dod 芒 chysur i chi – cysylltwch 芒 Felindre gyda’ch ryseitiau.

Er mwyn helpu Felindre gyda’r prosiect, mae rhai o gogyddion blaenllaw Cymru wedi cytuno i goginio’r ryseitiau. Neb llai na:
o'r chwith i'r dde...
Sam a Shauna, Hangfire Southern Kitchen
Mae Sam a Shauna wedi ail-ddiffinio bwyd BBQ yng Nghymru ac wedi llwyddo symud o fod yn fwyty achlysurol ‘pop up’ i fwyty llwyddiannus iawn yn Y Bari. Yn 2015, enillodd Sam a Shauna gwobr ‘Best Street Food’ sianel BBC, Radio 4.

Anand George, Purple Poppadom
Cogydd hynod o dalentog sydd wedi sefydlu ei hun fel un o’r goreuon yn y brifddinas. Mae bwyty Purple Poppadom wedi ennill sawl gwobr a chydnabyddiaeth gan Jay Rayner. Mae Anand George hefyd allan ar ei tukka tuk yn arlwyo, ymhlith prydau eraill, cyw i芒r a sglodion arbennig o dda. Mae hefyd yn awdur The 5,000 Mile Journey, yn gyfrifol am ysgol goginio a rhedeg cwmni sy’n cynnal gwyliau bwyd i Kerala.

Padraig (Paj) Jones, ymgynghorydd bwyd
Ar 么l gweithio gyda rhai o gewri’r byd bwyd, megis Marco Pierre White, Pierre Koffmann a Micheal Roux wnaeth Paj torri cwys ei hun a chreu enw ei hun yng Nghaerdydd gyda Le Gallois cyn symud ymlaen i amryw o fwytai eraill. I ble bynnag aeth Paj, roedd cydnabyddiaeth gan y Good Food Guide yn ei ddilyn. Mae Paj nawr yn gweithio fel ymgynghorydd a chogydd datblygu prydau ar gyfer archfarnadoedd y DU.

Stephen Terry, The Hardwick
Un arall sydd wedi gweithio gyda’r arwr bwyd Marco Pierre White, Mae Stephen yn wyneb cyfarwydd i lawer diolch i raglen Saturday Kitchen Live. Mae Stephen yn ennill canmoliaeth dro ar 么l tro am ei fwyd ym mwyty The Hardwick. Mae Stephen hefyd yn awdur llyfr ryseitiau “inspired…by”.

Shaun Hill, The Walnut Tree
Yn llysgennad bwyd dros Gymru a chogydd sydd yn uchel ei barch yn y byd bwyd ar 么l gweithio yn y diwydiant am 50 mlynedd. Mae’r Walnut Tree yn un o saith bwyty yng Nghymru sydd 芒 seren Michelin.

Stephen Gomes, Moksh
Mae’r cogydd yn wallgo’ – mae wedi coginio cyw i芒r mewn peiriant golchi llestri ac mae’n cynnig ‘chocolate orange’ fel cwrs cyntaf! Mae’n ffan fawr o ddulliau coginio arloesol ac os oes modd cyflwyno cynnyrch yn defnyddio dull ‘spherification’ mi wna! Mae’n gogydd sydd wedi ennill sawl gwobr ac wedi ennill tipyn o gydnabyddiaeth ar 么l cymryd rhan yn rhaglen deledu The Great British Menu.

Angela Gray o ysgol goginio Angela Gray
Mae Angela yn wyneb cyfarwydd iawn i bobl sy’n mynychu gwyliau bwyd led led Cymru. Mae’n athrawes goginio profiadol ac mae’r ysgol goginio wedi ennill cydnabyddiaeth gan The Guardian a The Telegraph fel un o’r ysgolion gorau yn y DU.

Chris Harrod, The Whitebrook
Un o fy hoff fwytai. Mae Chris Harrod wedi llwyddo i ddathlu cynnyrch lleol mewn ffordd gynaliadwy a blasus iawn. Dwi wedi blogio eisoes am y bwyty yma. Mae Chris wedi ennill a chynnal seren Michelin ers sawl blwyddyn ac yn un o dri bwyty yng Nghymru 芒 phedair rosette AA.

Danfonwch eich ryseitiau at
Ceri Harris: ceri.harris3@wales.nhs.uk  neu
GIG Ymddiriedolaeth Felindre
2 Charnwood Court
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QZ neu
Arlein www.surveymonkey/r/Velindrecookbook

Tuesday, 26 September 2017

Gwobrau Lletygarwch Yr AA: Noson hanesyddol i Gymru

Bob Hydref mae'r diwydiant fwyd wrthi'n dathlu llwyddiannau gwestai, tafarndai a bwytai'r Deyrnas Unedig. Mae'r Good Food Guide wedi cyhoeddi gwobrau eisoes a neithiwr oedd tro yr AA, ac mi oedd hi'n noson lwyddiannus a hanesyddol i fwytai Cymru.
Tim Ynyshir yn dathlu'r achlysur hanesyddol
Y prif bennawd yw bod bwyty Ynyshir, ger Machynlleth, wedi cipio 5 rosette. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw fwyty yng Nghymru i gipio 5 rosette. Mae hyn yn dipyn o lwyddiant i Gareth Ward a'i dim - y llynedd, ond 15 bwyty oedd wedi cipio 5 rosette.
Rhagor o lwyddiant i James a Louise Sommerin
Roedd rhagor o newyddion da i fwytai James Sommerin, Penarth, a Sosban & The Old Butchers, Ynys M么n, gyda'r ddau fwyty yn ennill 4 rosette. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd aruthrol i fwytai gymharol newydd. O ran cyd-destun, ond 42 bwyty oedd wedi hawlio 4 rosette y llynedd. Gan gynnwys The Whitebroook, mae nawr gan Gymru 3 bwyty gyda 4 rosette.
Sosban & The Old Butcher's, Ynys Mon yn dathlu ennill 4 rosete
Roeddwn i'n bersonol hapus gweld Hywel Griffith a'i fwyty Beach House, Oxwich, yn ennill gwobr Bwyty'r Flwyddyn yng Nghymru. O weld yr ymateb ar gyfryngau cymdeithasol, roedd hyn yn benderfyniad poblogaidd iawn.
Hywel Griffith a'r tim yn dathlu Bwyty'r Flwyddyn (Cymru) 2017/18
Mi oedd rhagor o wobrau i Gymru hefyd yn cynnwys:
  • Tafarn Y Flwyddyn (Cymru): Bryntyrch Inn, Conwy
  • Gwesty'r Flwyddyn (Cymru): Twr Y Felin, T欧 Ddewi
  • Rhestr Win Orau (Cymru a'r DU): Ynyshir, Machynlleth
  • 3 Rosette: Bwyty Pal Hall (bwyty o dan oruchwyliaeth Michael Caines MBE)
*Cymerwyd y lluniau o ffrwd swyddogol yr AA


Wednesday, 5 July 2017

Asador 44

Eleni yn Tafwyl ces i’r pleser o gymryd rhan mewn sesiwn drafodaeth gyda blogwyr Cymraeg blaenllaw bwyd y brifddinas. Un o’r pynciau a drafodwyd oedd bwytai gorau Caerdydd. Roedd y sgwrs yn un ddiddorol gyda phob blogiwr yn siarad yn angerddol am wahanol lefydd. Mi oedd y panel yn unfarn serch hynny am un bwyty: Asador 44.

Asador 44 yw bwyty diweddaraf Owen a Tom Morgan - y brodyr talentog tu l i fwytai tapas Bar 44 (Y Bontfaen, Canol Y Ddinas a Phenarth). Nid bwyty tapas yw Asador 44 serch hynny ond bwyty barbeciw.
Diolch i Gourmet Gorro am y llun
Ers i’r lle agor ei ddrysau 4 mis yn 么l, mae wedi ennill ei blwy fel un o fwytai gorau’r brifddinas. Y prif reswm am hyn yw ymrwymiad Owen Morgan i ansawdd y cynnyrch. Ar 么l blynyddoedd o arbrofi ryseitiau a phrofi cynhwysion yn rhanbarth Y Basg roedd hi’n amser i agor y bwyty.

O edrych ar y fwydlen, y prisiau ac nid y prydau sy’n fy nharo i gynta’. Dechreuad o carabinero (un corgimwch am £16) yn enghraifft eithafol o hyn. Fel rhywun sy’n hapus i wario arian ar fwyd da, nid yw hyn yn broblem i fi ond mae’n gwneud i fi gwestiynu ydy’r prisiau yma’n gynaliadwy? Mae pawb yn gwybod beth ddigwyddodd i Burger & Lobster a’r fwydlen £20.
Diolch i Asador 44 am y llun
Prif ffocws y bwyty yw’r asador sef barbeciw neu gril neu sbit. Ar yr asador ma detholiad o bysgod, llysiau a chig yn cael ei goginio. Ces i’r sirloin o hen fuwch odro Asturia 9 mlwydd oed. Pryd syml ond anhygoel ar yr un pryd. Mae safon y gwin cystal hefyd ac mae’r sommelier, Furgus Muirhead yn wybodus iawn ac mae ganddo CV anhygoel am rywun mor ifanc: Jason Atherton; Tom Sellers; a Tom Aitkens.
Does gen i ddim gair o feirniadaeth ac eithrio’r melysfwyd o gacen gaws. Mi oedd e wedi’i goginio yn y ffordd draddodiadol ond doedd e ddim cystal 芒’r hyn sy’n cael ei greu yn La Via yn San Sebastin.
Yn fyr, mae’r lle yn wych, yn werth yr arian ac yn lle arbennig i ddathlu achlysur arbennig yng nghanol y ddinas. Mae’n werth nodi hefyd bod Asador 44 yn cynnig bwydlen arbennig amser cinio sy’n fargen am £10.

https://asador44.co.uk/
@asador44
facebook/asador44

Friday, 5 May 2017

Ffwrnes Pizza

Mae ffyniant wedi bod yn y nifer o lefydd sy'n cynnig pizza da yn y brifddinas. Mae hyn, yn rhannol, oherwydd y pop-ups niferus sydd yn llwyfan i gwmn茂au fel Dusty Knuckle a Ffwrnes.

Dwi wedi s么n am Dusty Knuckle ar y blog eisoes ac mae'r cwmni'n mynd o nerth i nerth ond Ffwrnes yw testun y blog yma.

Mae egwyddorion Ffwrnes yn glir ac yn syml: creu pizza yn dilyn rheolau Associazione Verace Pizza Napoletana gyda'r blawd yn dod o'r Eidal, y toes yn cael ei baratoi 芒 llaw, tomatos San Marzano a hyd yn oed y pren sy'n cael ei losgi yn dod o'r Eidal.

Ma' ymrwymiad Ffwrnes i'r egwyddor yma yn absoliwt a dyma sail ei llwyddiant.

Ma' creu pizza da yn dipyn o her. Gwnaeth Heston Blumenthal egluro'r her rai blynyddoedd yn 么l ar ei raglen, "in search of perfection". Yn syml, mae'r broses o goginio yn lladd blas tyner perlysiau megis basil felly mae angen coginio'r toes cyn gynted 芒 phosib. Nid yw ffwrn draddodiadol yn gallu ymdopi 芒'r her yma. Mae gan Ffwrnes ddwy ffwrn arbenigol serch hynny sy'n golygu bod y pizza yn y ffwrn am gwpwl o funudau yn unig gyda'r gwres yn ddigon i goginio a phothelli'r toes heb amharu ar flas y pizza. Mae'r canlyniad yn wych.

Beth sy'n gwneud Ffwrnes yn unigryw yw ei phersonoliaeth. Sam Fan T芒n neu Smokey Pete sy'n tywys y perchnogion o gwmpas y wlad a ma'r chwarae ar eiriau i'w weld ar y fwydlen hefyd gyda pizza fel "pobi savage"!
Roedd hyn oll yn ddigon i mi ofyn i Ffwrnes arlwyo ar gyfer parti diwrnod ar 么l i mi briodi. O'r cychwyn cynta' roedd y gwasanaeth yn wych a hwythau'n awyddus i greu bwydlen oedd yn taro'r nod. Ar ddiwrnod y parti creodd Ffwrnes fwydlen yn 么l y gofyn ond bwydlen wedi'i gynllunio mewn ffordd oedd yn gweddu i'r briodas y diwrnod cynt. Rhywbeth oedd fy ngwraig yn hynod o hapus gyda!

Ni allaf eu canmol yn ddigonol!

Am wybodaeth ar ble fydd Ffwrnes yn coginio pizza nesa, cliciwch yma.

http://www.ffwrnes.co.uk/

Thursday, 27 April 2017

Yo! Sushi

Mae'r enw a'r cysyniad wedi blino erbyn hyn. Pwy sy'n dweud "Yo!" bellach a phwy sydd am weld robots yn paratoi cynnyrch o safon cymharol isel gyda'r rhan helaeth o'r bwyd yn cael ei wastraffu?

Er bod yr adolygiad yma yn cyfeirio'n benodol at gangen yn Llundain, mae'r feirniadaeth yn berthnasol i'r cwmni cyfan.
Er mwyn cadw cysondeb ar draws y 100 cangen, mae 'na reol a phatrwm tu 么l i bopeth. O'r gwasanaeth i sut ma'r bwyd yn cael ei roi ar bl芒t does dim personoliaeth na sbarc yn perthyn i'r lle.

Mae'r ffanfer achlysurol trwy'r speakers sy'n canu crescendo o "Yo! Sushi...Yo! Sushi...Yo! Sushi" yn ceisio ychwanegu bach o gynnwrf ond mae'n swnio fel orgasm ffug, blinedig.

Ma' gwydraid o dd诺r yn costio £1.30 ac ma'r bwyd yn ddrud. Dwi'n hapus i wario ceiniog bert ar bryd da o fwyd ond ebi roll am £4.60? Dim diolch. Yn enwedig pan mai reis a chytew tempura yw 99% o'r pryd gydag ychydig bach o gig pinc y corgimwch yn blasu o ddim.

Y cig eidion wedi'i serio gyda choriander: er i'r saws flasu o coriander, roedd y cig eidion yn ddi-flas ac yn frasterog a gwydn. Roedd e fel bwyta gwm cnoi.

Roedd cyfnod pan oeddem ni'n meddwl bod y conveyer belt yn arloesol ond nawr dwi'n gweld y tomeni bach, niferus o fwyd fel lemmings sy'n mynd i farw. Duw a 诺yr faint o fwyd ma'r cwmni yn ei wastraffu mewn blwyddyn. Ac mi fydd y ffigwr yn sicr o fod yn uwch pe bai'r gweinwyr yn gwaredu'r hen blatiau o'r conveyor belt mewn da bryd (cyn y 'best before'). Roedd sawl enghraifft o hyn - un rheol sydd ddim yn cael ei ddilyn yn slafaidd felly.

Wrth i mi roi'r adborth yma i'r weinyddes, mi wnaeth hi gadarnhau bod llwyth o wastraff ond does dim cynlluniau ar y gweill i newid hyn. Er lles y blaned, dwi'n gobeithio ei bod hi'n anghywir.

Diolch byth bo Sushi Life, Yakatori #1 a Tenkaichi gyda ni yma yng Nghaerdydd.